1 Haleliwia!Molwch e, weision yr ARGLWYDD!Molwch enw'r ARGLWYDD!
2 Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei fendithio,nawr ac am byth.
3 Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei folidrwy'r byd i gyd!
4 Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu dros yr holl genhedloedd!Mae ei ysblander yn uwch na'r nefoedd.
5 Does neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw,sy'n eistedd ar ei orsedd uchel!
6 Mae'n plygu i lawr i edrychar y nefoedd a'r ddaear oddi tano.
7 Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw,a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel.
8 Mae'n eu gosod i eistedd gyda'r bobl fawr,ie, gydag arweinwyr ei bobl.
9 Mae'n rhoi cartref i'r wraig ddi-blant,ac yn ei gwneud hi'n fam hapus.Haleliwia!