1 Amddiffyn fi, O Dduw;dw i'n troi atat ti am loches.
2 Dywedais wrth yr ARGLWYDD,“Ti ydy fy Meistr i;mae fy lles i yn dibynnu arnat ti.”
3 Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr,dw i wrth fy modd gyda nhw.
4 Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraillyn cael llwyth o drafferthion!Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed.Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!
5 Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau.Mae fy nyfodol i yn dy law di.
6 Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi;mae gen i etifeddiaeth hyfryd.
7 Bendithiaf yr ARGLWYDD am fy arwain i;ac am siarad gyda mi yn y nos.
8 Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi.Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.
9 Felly, mae fy nghalon i'n llawen!Dw i'n gorfoleddu!Dw i'n gwybod y bydda i'n saff!
10 Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw,na gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
11 Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi;bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydda hyfrydwch diddiwedd bob amser.