Salm 107 BNET

LLYFR PUMP

Canmol daioni Duw

1 Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

2 Gadewch i'r rhai mae'r ARGLWYDD wedi eu gollwng yn rhydd ddweud hyn,ie, y rhai sydd wedi eu rhyddhau o afael y gelyn.

3 Maen nhw'n cael eu casglu o'r gwledydd eraill,o'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.

4 Roedden nhw'n crwydro ar goll yn yr anialwch gwyllt,ac yn methu dod o hyd i dre ble gallen nhw fyw.

5 Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw,ac roedden nhw wedi colli bob egni.

6 Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion,

7 ac yn eu harwain nhw'n sythi le y gallen nhw setlo i lawr.

8 Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!

9 Mae wedi rhoi diod i'r sychedig,a bwyd da i'r rhai oedd yn llwgu.

10 Roedd rhai yn byw mewn tywyllwch dudew,ac yn gaeth mewn cadwyni haearn,

11 am eu bod nhw wedi gwrthod gwrando ar Dduw,a gwrthod gwneud beth roedd y Goruchaf eisiau.

12 Deliodd hefo nhw drwy wneud iddyn nhw ddiodde.Roedden nhw'n baglu, a doedd neb i'w helpu.

13 Yna dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.

14 Daeth â nhw allan o'r tywyllwch,a thorri'r rhaffau oedd yn eu rhwymo.

15 Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!

16 Mae wedi dryllio'r drysau pres,a thorri'r barrau haearn.

17 Buodd rhai yn anfoesol, ac roedd rhaid iddyn nhw ddioddeam bechu a chamfihafio.

18 Roedden nhw'n methu cadw eu bwyd i lawr,ac roedden nhw'n agos at farw.

19 Ond dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.

20 Dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu hiacháu,ac yn eu hachub nhw o bwll marwolaeth.

21 Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!

22 Gadewch iddyn nhw gyflwyno offrymau diolch iddo,a chanu'n llawen am y cwbl mae wedi ei wneud!

23 Aeth rhai eraill ar longau i'r môr,i ennill bywoliaeth ar y môr mawr.

24 Cawson nhw hefyd weld beth allai'r ARGLWYDD ei wneud,y pethau rhyfeddol wnaeth e ar y moroedd dwfn.

25 Roedd yn rhoi gorchymyn i wynt stormus godi,ac yn gwneud i'r tonnau godi'n uchel.

26 I fyny i'r awyr, ac i lawr i'r dyfnder â nhw!Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau.

27 Roedd y cwch yn siglo a gwegian fel rhywun wedi meddwi,a doedd eu holl brofiad ar y môr yn dda i ddim.

28 Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.

29 Gwnaeth i'r storm dawelu;roedd y tonnau'n llonydd.

30 Roedden nhw mor falch fod y storm wedi tawelu,ac aeth Duw â nhw i'r porthladd o'u dewis.

31 Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!

32 Gadewch iddyn nhw ei ganmol yn y gynulleidfa,a'i foli o flaen yr arweinwyr.

33 Mae e'n gallu troi afonydd yn anialwch,a ffynhonnau dŵr yn grasdir sych,

34 tir ffrwythlon yn dir diffaitham fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg.

35 Neu gall droi'r anialwch yn byllau dŵr,a'r tir sych yn ffynhonnau!

36 Yna rhoi pobl newynog i fyw yno,ac adeiladu tref i setlo i lawr ynddi.

37 Maen nhw'n hau hadau yn y caeauac yn plannu coed gwinwydd,ac yn cael cynhaeaf mawr.

38 Mae'n eu bendithio a rhoi llawer o blant iddyn nhw,a dydy e ddim yn gadael iddyn nhw golli anifeiliaid.

39 Bydd y rhai sy'n gorthrymu yn colli pobl,yn dioddef pwysau gormes, trafferthion a thristwch.

40 Mae Duw yn dwyn anfri ar y bobl fawrac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau.

41 Ond mae'n cadw'r rhai sydd mewn angen yn saff,rhag iddyn nhw ddiodde,ac yn cynyddu eu teuluoedd fel preiddiau.

42 Mae'r rhai sy'n byw yn gywir yn gweld hyn ac yn dathlu –Ond mae'r rhai drwg yn gorfod tewi.

43 Dylai'r rhai sy'n ddoeth gymryd sylw o'r pethau hyn,a myfyrio ar gariad ffyddlon yr ARGLWYDD.