1 Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD,am ei fod wedi gwneud pethau anhygoel!Mae ei fraich gref,wedi ennill y fuddugoliaeth iddo.
2 Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei allu i achub!Mae wedi dangos i'r cenhedloedd ei fod yn Dduw cyfiawn.
3 Mae wedi cofio ei gariad a'i ffyddlondeb i bobl Israel;ac mae pawb drwy'r byd i gyd wedi gweld Duw yn achub.
4 Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD!Gweiddi'n llawen, a chanu mawl iddo!
5 Canwch fawl ar y delyn i'r ARGLWYDD;canwch gân hyfryd i gyfeiliant y delyn!
6 Seiniwch yr utgyrn a chwythu'r corn hwrdd.Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD, y Brenin!
7 Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi;a'r byd hefyd, a phawb sy'n byw ynddo.
8 Boed i'r afonydd guro dwylo,ac i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd
9 o flaen yr ARGLWYDD!Achos mae e'n dod i roi trefn ar y ddaear!Bydd e'n barnu'r byd yn hollol deg,a'r bobloedd yn gwbl gyfiawn.