1 Dw i'n gweiddi'n uchel ar Dduw;yn gweiddi'n uchel ar iddo wrando arna i.
2 Dw i mewn helbul, ac yn troi at yr ARGLWYDD;dw i wedi bod yn estyn fy nwylo ato mewn gweddi trwy'r nos,ond ches i ddim cysur.
3 Dw i wedi bod yn ochneidio wrth feddwl am Dduw,dw i wedi bod yn myfyrio arno – ond yn anobeithio. Saib
4 Ti sydd wedi fy nghadw i'n effro;dw i mor boenus, wn i ddim beth i'w ddweud.
5 Dw i wedi bod yn meddwl am yr hen ddyddiau,flynyddoedd lawer yn ôl.
6 Cofio'r gân roeddwn i'n arfer ei chanu.Meddwl drwy'r nos am y peth, a chwilio am ateb.
7 “Ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth?Ydy e'n mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto?
8 Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr?Ydy'r addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni?
9 Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd?Ydy ei ddig yn gryfach na'i dosturi?” Saib
10 “Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i:fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.”
11 Dw i'n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD –ydw, dw i'n cofio'r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm!
12 Dw i'n mynd i gofio am bopeth wnest ti,a myfyrio ar y cwbl.
13 O Dduw, mae dy ffyrdd di yn gwbl unigryw!Oes yna dduw tebyg i'n Duw ni?
14 Na! Ti ydy'r Duw sy'n gwneud pethau anhygoel!Ti wedi dangos dy nerth i'r bobloedd i gyd.
15 Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref,sef disgynyddion Jacob a Joseff. Saib
16 Dyma'r dyfroedd yn dy weld di, O Dduw,dyma'r dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu.Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn!
17 Roedd y cymylau'n tywallt y glaw;yr awyr yn taranu,a dy saethau yn fflachio ym mhobman.
18 Roedd dy lais i'w glywed yn taranu yn y storm;dy fellt yn goleuo'r byd,a'r ddaear yn crynu trwyddi.
19 Agoraist ffordd drwy'r môr;Cerddaist drwy'r dyfroedd cryfion,er bod neb yn gweld olion dy draed.
20 Dyma ti'n arwain dy bobl fel praidddan ofal Moses ac Aaron.