1 Bendith ar yr ARGLWYDD, fy nghraig i!Mae e wedi dysgu fy nwylo i ymladd,a'm bysedd i frwydro.
2 Mae'r Un ffyddlon fel castell o'm cwmpas;fy hafan ddiogel a'r un sy'n fy achub i.Fy nharian, a'r un dw i'n cysgodi ynddo.Mae e'n gwneud i wledydd eraill ymostwng i mi.
3 O ARGLWYDD, beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?Pam ddylet ti feddwl ddwywaith am berson dynol?
4 Mae pobl fel tarth.Mae bywyd fel cysgod yn pasio heibio.
5 O ARGLWYDD, gwthia'r awyr o'r ffordd, a tyrd i lawr!Cyffwrdd y mynyddoedd, a gwna iddyn nhw fygu!
6 Gwna i fellt fflachio a chwala'r gelyn!Anfon dy saethau i lawr a'u gyrru nhw ar ffo!
7 Estyn dy law i lawr o'r entrychion.Achub fi! Tynna fi allan o'r dŵr dwfn!Achub fi o afael estroniaid
8 sy'n dweud celwyddauac sy'n torri pob addewid.
9 O Dduw, dw i am ganu cân newydd i ti,i gyfeiliant offeryn dectant.
10 Canu i ti sydd wedi rhoi buddugoliaeth i frenhinoedd,ac achub dy was Dafydd rhag y cleddyf marwol.
11 Achub fi o afael estroniaidsy'n dweud celwyddauac sy'n torri pob addewid.
12 Bydd ein meibion fel planhigion ifancwedi tyfu yn eu hieuenctid;a'n merched fel y pileri ar gorneli'r palas,wedi eu cerfio i harddu'r adeilad.
13 Bydd ein hysguboriau'n llawno bob math o fwyd;a bydd miloedd o ddefaid,ie, degau o filoedd, yn ein caeau.
14 Bydd ein gwartheg yn iach –heb bla a heb erthyliad;A fydd dim wylo yn y strydoedd.
15 Mae pobl mor ffodus pan mae pethau felly!Mae'r bobl sydd â'r ARGLWYDD yn Dduw iddyn nhwwedi eu bendithio'n fawr!