1 Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi;y byd, a phawb sy'n byw ynddo.
2 Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd,a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.
3 Pwy sy'n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD?Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? –
4 Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur;yr un sydd ddim yn twylloneu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.
5 Mae'r ARGLWYDD yn bendithio pobl felly;byddan nhw'n cael eu derbyni berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub.
6 Dyma'r math o bobl sy'n cael troi ato:y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob. Saib
7 Giatiau'r ddinas, edrychwch!Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
8 Pwy ydy'r Brenin gwych yma? –yr ARGLWYDD, cryf a dewr,yr ARGLWYDD sy'n ennill pob brwydr!
9 Giatiau'r ddinas, edrychwch!Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
10 Pwy ydy'r Brenin gwych yma? –Yr ARGLWYDD holl-bwerus!Fe ydy'r Brenin gwych! Saib