1 ARGLWYDD, dw i'n galw arnat: Brysia! Helpa fi!Gwranda arna i'n galw arnat ti.
2 Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth,a'm dwylo sydd wedi eu codi fel aberth yr hwyr.
3 O ARGLWYDD, gwarchod fy nghega gwylia ddrws fy ngwefusau.
4 Paid gadael i mi feddwl dweud dim byd drwg,na gwneud dim gyda dynion sydd felly!Cadw fi rhag bwyta eu danteithion.
5 Boed i rywun sy'n byw'n gywir ddod i'm taro i,a'm ceryddu mewn cariad!Dyna'r olew gorau – boed i'm pen beidio ei wrthod.Dw i'n gweddïo o hyd ac o hyd yn erbyn eu drygioni.
6 Pan fyddan nhw'n syrthio i ddwylo'r Graig, eu Barnwr,byddan nhw'n gwerthfawrogi beth ddywedais i.
7 Fel petai rhywun yn aredig ac yn troi y pridd,mae ein hesgyrn wedi eu gwasgaru wrth geg Annwn.
8 Arnat ti dw i'n edrych, O ARGLWYDD, fy Meistr;Dw i'n dod atat am loches, paid a'm gadael mewn perygl!
9 Cadw fi i ffwrdd o'r trapiau maen nhw wedi eu gosod,ac oddi wrth faglau y rhai drwg.
10 Gad iddyn nhw syrthio i'w rhwydi eu hunain,tra dw i'n llwyddo i ddianc.