1 Dewch angylion! Cyhoeddwch!Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!
2 Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!Plygwch i addoli'r ARGLWYDDsydd mor hardd yn ei gysegr.
3 Mae llais yr ARGLWYDD i'w glywed uwchben y dŵr –sŵn y Duw gwych yn taranu.Mae'r ARGLWYDD yn taranu uwchben y dyfroedd mawr.
4 Mae llais yr ARGLWYDD yn rymus.Mae llais yr ARGLWYDD yn urddasol.
5 Mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio'r cedrwydd;mae e'n dryllio coed cedrwydd Libanus.
6 Mae'n gwneud i Libanus brancio fel llo;a Sirion fel ych gwyllt ifanc.
7 Mae llais yr ARGLWYDD fel mellt yn fflachio.
8 Mae llais yr ARGLWYDD yn ysgwyd yr anialwch;mae'r ARGLWYDD yn ysgwyd anialwch Cadesh.
9 Mae llais yr ARGLWYDD yn plygu'r coed mawrion,ac yn tynnu'r dail oddi ar y fforestydd.Ac yn ei deml mae pawb yn gweiddi “Rwyt ti'n wych!”
10 Mae'r ARGLWYDD ar ei orsedd uwchben y llifogydd.Mae'r ARGLWYDD yn Frenin ar ei orsedd am byth.
11 Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.Mae'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch i'w bobl.