1 O ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir,ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto.
2 Ti wedi symud euogrwydd dy bobl,a maddau eu pechodau i gyd. Saib
3 Ti wedi tynnu dy lid yn ôl,a throi cefn ar dy wylltineb.
4 Tro ni'n ôl, O Dduw, ein hachubwr!Rho heibio dy ddicter tuag aton ni.
5 Wyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth?Wyt ti'n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau?
6 Plîs, wnei di'n hadfywio ni unwaith eto,i dy bobl gael dathlu beth wnest ti!
7 O ARGLWYDD, dangos dy gariad ffyddlon i ni.Plîs achub ni!
8 Dw i'n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i'w ddweud:Ydy wir! Mae'r ARGLWYDD yn addo heddwchi'r rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon –ond rhaid iddyn nhw beidio troi'n ôl at eu ffolineb!
9 Mae e'n barod iawn i achub y rhai sy'n ei ddilyn e;wedyn bydd ei ysblander i'w weld yn ein tir eto.
10 Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd;bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu.
11 Bydd gwirionedd yn tarddu o'r tir,a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
12 Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pethau da i ni;a bydd y tir yn rhoi ei gnydau.
13 Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaenac yn paratoi'r ffordd iddo.