1 Bydd y sawl mae'r Duw Goruchaf yn ei amddiffynyn aros yn saff dan gysgod yr Hollalluog.
2 Dywedais, “ARGLWYDD, rwyt ti'n gaer ddiogel,yn lle hollol saff i mi fynd.Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i'n ei drystio.”
3 Bydd Duw yn dy achub di o drap yr heliwr,a rhag y pla marwol.
4 Bydd e'n rhoi ei adain drosot ti,a byddi'n saff o dan blu ei adenydd.Mae'r ffaith fod Duw yn dweud y gwiryn darian sy'n dy amddiffyn di.
5 Paid bod ag ofn dim sy'n dy ddychryn yn y nos,na'r saeth sy'n hedfan yn y dydd;
6 yr haint sy'n llechu yn y tywyllwch,na'r dinistr sy'n taro'n sydyn ganol dydd.
7 Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith,a deg mil ar y dde,ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd.
8 Byddi'n cael gweld drosot ti dy hun –byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu cosbi.
9 Wyt, rwyt ti'n lle saff i mi guddio. ARGLWYDD!Gad i'r Duw Goruchaf fod yn hafan ddiogel i ti,
10 a fyddi di ddim yn cael unrhyw niwed.Fydd dim haint yn dod yn agos i dy gartre di.
11 Achos bydd e'n gorchymyn i'w angyliondy amddiffyn di ble bynnag rwyt ti'n mynd.
12 Byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiaufel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.
13 Byddi di'n sathru'r llew a'r cobra dan draed;fydd llewod ifanc a nadroedd ddim yn beryg i ti.
14 “Dw i'n mynd i gadw'r un sy'n ffyddlon i mi yn saff,” meddai'r ARGLWYDD;“bydda i'n amddiffyn yr un sy'n fy nabod i.
15 Pan fydd e'n galw arna i, bydda i'n ateb.Bydda i gydag e drwy bob argyfwng.Bydda i'n ei achub e ac yn ei anrhydeddu.