1 O ARGLWYDD, paid anghofio Dafydd.Roedd e wedi cael amser mor galed.
2 Roedd e wedi addo i'r ARGLWYDDa mynd ar ei lw i Un Cryf Jacob:
3 “Dw i ddim am fynd i'r tŷ,na dringo i'm gwely;
4 dw i ddim am adael i'm llygaid orffwys,na chau fy amrannau,
5 nes dod o hyd i le i'r ARGLWYDD,ie, rhywle i Un Cryf Jacob fyw.”
6 Clywson fod yr Arch yn Effrata;a dod o hyd iddi yng nghefn gwlad Jaar.
7 Gadewch i ni fynd i mewn i'w dabernacl,ac ymgrymu wrth ei stôl droed!
8 O ARGLWYDD, dos i fyny i dy demlgyda dy Arch bwerus!
9 Boed i dy offeiriaid wisgo cyfiawnder,boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti weiddi'n llawen!
10 Paid troi cefn ar yr un rwyt wedi ei eneinioo achos Dafydd dy was.
11 Roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Dafydd– aeth ar ei lw, a dydy e ddim yn torri ei air –“Dw i'n mynd i osod un o dy ddisgynyddion di ar dy orsedd.
12 Os bydd dy feibion yn cadw'r ymrwymiad wnaethon nia'r amodau dw i wedi eu gosod iddyn nhw,bydd dy linach frenhinol yn para am byth.”
13 Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Seion;mae e wedi penderfynu aros yno.
14 “Dyma ble bydda i yn gorffwys am byth,” meddai,“dw i'n mynd i deyrnasu yma. Ie, dyna dw i eisiau.
15 Dw i'n mynd i'w gwneud hi'n ddinas lwyddiannus,a rhoi digonedd o fwyd i'r rhai anghenus ynddi.
16 Dw i'n mynd i roi achubiaeth yn wisg i'w hoffeiriaid,a bydd ei rhai ffyddlon yn gweiddi'n llawen!
17 Dw i'n mynd i godi olynydd cryf i Dafydd;bydd fel lamp wedi ei rhoi i oleuo'r bobl.
18 Bydda i'n gwisgo ei elynion mewn cywilydd,ond bydd coron yn disgleirio ar ei ben e.”