1 Dyma fi'n penderfynu, “Dw i'n mynd i wylio fy huna pheidio dweud dim byd i bechu.Dw i'n mynd i gau fy nghegtra dw i yng nghwmni pobl ddrwg.”
2 Roeddwn i'n hollol dawel,yn brathu fy nhafod a dweud dim.Ond roeddwn i'n troi'n fwy a mwy rhwystredig.
3 Roedd y tensiwn yno i yn mynd o ddrwg i waeth.Roeddwn i'n methu ymatal.A dyma fi'n dweud:
4 “O ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt?faint o amser sydd gen i ar ôl?Bydda i wedi mynd mewn dim o amser!
5 Ti wedi gwneud bywyd mor fyr.Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di.Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth!” Saib
6 Mae pobl yn pasio trwy fywyd fel cysgodion.Maen nhw'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain,heb wybod pwy fydd yn ei gymryd yn y diwedd.
7 Beth alla i bwyso arno, felly, O ARGLWYDD?Ti dy hun ydy fy unig obaith i!
8 Achub fi rhag canlyniadau fy ngwrthryfel.Paid gadael i ffyliaid wneud hwyl ar fy mhen.
9 Dw i'n fud, ac yn methu dweud dimo achos beth rwyt ti wedi ei wneud.
10 Plîs paid dal ati i'm taro!Dw i wedi cael fy nghuro i farwolaeth bron!
11 Ti'n disgyblu pobl mor llym am eu pechodau,er mwyn i'r ysfa i bechu ddiflannufel gwyfyn yn colli ei nerth.Ydy, mae bywyd pawb fel tarth! Saib
12 Clyw fy ngweddi, O ARGLWYDD.Gwranda arna i'n gweiddi am help;paid diystyru fy nagrau!Dw i fel ffoadur, yn dibynnu arnat ti.Fel fy hynafiaid dw i angen dy help.
13 Stopia syllu mor ddig arna i.Gad i mi fod yn hapus unwaith eto,cyn i mi farw a pheidio â bod.