Salm 44 BNET

Gweddi ar i Dduw wneud rhywbeth i helpu

I'r arweinydd cerdd: Mascîl gan Feibion Cora.

1 Dŷn ni wedi clywed, O Dduw,ac mae'n hynafiaid wedi dweud wrthon nibeth wnest ti yn eu dyddiau nhw,ers talwm.

2 Gyda dy nerth symudaist genhedloedd,a rhoi ein hynafiaid yn y tir yn eu lle.Gwnaethost niwed i'r bobl oedd yn byw yno,a gollwng ein hynafiaid ni yn rhydd.

3 Nid eu cleddyf roddodd y tir iddyn nhw;wnaethon nhw ddim ennill y frwydr yn eu nerth eu hunain.Na! dy nerth di, dy allu di,dy ffafr di tuag atyn nhw wnaeth y cwbl!Roeddet ti o'u plaid nhw.

4 Ti ydy fy mrenin i, O Dduw;yr un sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i bobl Jacob!

5 Ti sy'n ein galluogi ni i yrru'n gelynion i ffwrdd.Gyda dy nerth di dŷn ni'n sathru'r rhai sy'n ein herbyn.

6 Dw i ddim yn dibynnu ar fy mwa;ac nid cleddyf sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i mi.

7 Ti sy'n rhoi'r fuddugoliaeth dros y gelyn.Ti sy'n codi cywilydd ar y rhai sy'n ein casáu ni.

8 Duw ydy'r un i frolio amdano bob amser!Dw i am foli ei enw'n ddi-baid. Saib

9 Ond bellach rwyt ti wedi'n gwrthod ni,a'n cywilyddio ni!Dwyt ti ddim yn mynd allan gyda'n byddin ni.

10 Ti'n gwneud i ni ffoi oddi wrth ein gelynion.Mae'n gelynion wedi cymryd popeth oddi arnon ni!

11 Rwyt wedi'n rhoi fel defaid i'w lladd a'u bwyta.Rwyt wedi'n chwalu ni drwy'r gwledydd.

12 Rwyt wedi gwerthu dy bobl am y nesa peth i ddim,wnest ti ddim gofyn pris uchel amdanyn nhw.

13 Rwyt wedi'n dwrdio ni o flaen ein cymdogion.Dŷn ni'n destun sbort i bawb o'n cwmpas.

14 Mae'r cenhedloedd i gyd yn ein gwawdio ni;pobl estron yn gwneud hwyl ar ein pennau ni.

15 Does gen i ddim mymryn o urddas ar ôl.Dw i'n teimlo dim byd ond cywilydd

16 o flaen y gelyn dialgarsy'n gwawdio ac yn bychanu.

17 Mae hyn i gyd wedi digwydd i ni,er na wnaethon ni dy wrthod dina thorri amodau ein hymrwymiad i ti.

18 Dŷn ni ddim wedi bod yn anffyddlon i ti,nac wedi crwydro oddi ar dy lwybrau di.

19 Ac eto rwyt ti wedi'n sathru ni,a'n gadael ni fel adfail lle mae'r siacaliaid yn byw.Rwyt wedi'n gorchuddio ni gyda thywyllwch dudew.

20 Petaen ni wedi anghofio enw Duwac estyn ein dwylo mewn gweddi at ryw dduw arall,

21 oni fyddai Duw wedi gweld hynny?Mae e'n gwybod beth sy'n mynd trwy'n meddyliau ni!

22 O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser,dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.

23 Symud! O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cysgu?Deffra! Paid gwrthod ni am byth!

24 Pam wyt ti'n edrych i ffwrdd,ac yn cymryd dim sylw o'r ffordd dŷn ni'n cael ein cam-drin a'n gorthrymu?

25 Dŷn ni'n gorwedd ar ein hwynebau yn y llwch,ac yn methu codi oddi ar lawr.

26 Tyrd, helpa ni!Dangos dy ofal ffyddlon, a gollwng ni'n rhydd.