1 O Dduw, ti ydy fy Nuw i!Dw i wir yn dy geisio di.Mae fy enaid yn sychedu amdanat.Mae fy nghorff yn dyheu amdanat,fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr.
2 Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr,a gweld dy rym a dy ysblander!
3 Profi dy ffyddlondeb di ydy'r peth gorau am fywyd,ac mae fy ngwefusau'n dy foli di!
4 Dw i'n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd;codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw.
5 Dw i wedi fy modloni'n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd!Dw i'n canu mawl i ti â gwefusau llawen.
6 Dw i'n meddwl amdanat wrth orwedd ar fy ngwely,ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos;
7 Dw i'n cofio fel y gwnest ti fy helpu –ron i'n gorfoleddu,yn saff dan gysgod dy adenydd.
8 Dw i am lynu'n dynn wrthot ti;dy law gref di sy'n fy nghynnal i.
9 Bydd y rhai sy'n ceisio fy lladd iyn mynd i lawr yn ddwfn i'r ddaear.
10 Bydd y rhai sydd am fy nharo gyda'r cleddyfyn cael eu gadael yn fwyd i siacaliaid.
11 Ond bydd y brenin yn dathlu beth wnaeth Duw.Bydd pawb sy'n tyngu llw iddo yn gorfoleddu,pan fydd e'n cau cegau y rhai celwyddog!