Salm 69 BNET

Cri am help

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw "Lilïau". Salm Dafydd.

1 Achub fi, O Dduw,mae'r dŵr i fyny at fy ngwddf.

2 Dw i'n suddo mewn cors ddofn,a does dim byd i mi sefyll arno.Dw i mewn dyfroedd dyfnion,ac yn cael fy ysgubo i ffwrdd gan y llifogydd.

3 Dw i wedi blino gweiddi am help;mae fy ngwddf yn sych;mae fy llygaid yn cauar ôl bod yn disgwyl yn obeithiol am Dduw.

4 Mae mwy o bobl yn fy nghasáu i,nag sydd o flew ar fy mhen.Mae cymaint o bobl gelwyddog yn fy erbyn i,ac eisiau fy nistrywio i.Sut alla i roi yn ôl rywbeth dw i heb ei ddwyn?

5 O Dduw, rwyt ti'n gwybod gymaint o ffŵl ydw i.Dydy'r pethau dw i'n euog o'u gwneudddim wedi eu cuddio oddi wrthot ti.

6 Paid gadael i'r rhai sy'n dy drystio di fod â chywilydd ohono i,Feistr, ARGLWYDD holl-bwerus.Paid gadael i'r rhai sy'n dy ddilyn di gael eu bychanu,O Dduw Israel.

7 Ti ydy'r rheswm pam dw i'n cael fy sarhau,a'm cywilyddio;

8 Dydy fy nheulu ddim eisiau fy nabod i;dw i fel rhywun estron i'm brodyr a'm chwiorydd.

9 Mae fy sêl dros dy dŷ di wedi fy meddiannu i;dw i'n cael fy sarhau gan y rhai sy'n dy sarhau di.

10 Hyd yn oed pan oeddwn i'n wylo ac ymprydioroeddwn i'n destun sbort.

11 Roedd pobl yn gwneud hwyl ar fy mhenpan oeddwn i'n gwisgo sachliain.

12 Mae'r rhai sy'n eistedd wrth giât y ddinas yn siarad amdana i;a dw i'n destun cân i'r meddwon.

13 O ARGLWYDD, dw i'n gweddïo arnat tiac yn gofyn i ti ddangos ffafr ata i.O Dduw, am dy fod ti mor ffyddlon,ateb fi ac achub fi.

14 Tynna fi allan o'r mwd yma.Paid gadael i mi suddo!Achub fi rhag y bobl sy'n fy nghasáu i –achub fi o'r dŵr dwfn.

15 Paid gadael i'r llifogydd fy ysgubo i ffwrdd!Paid gadael i'r dyfnder fy llyncu.Paid gadael i geg y pwll gau arna i.

16 Ateb fi, ARGLWYDD;rwyt ti mor ffyddlon.Tro ata i, gan dy fod ti mor drugarog;

17 Paid troi dy gefn ar dy was –dw i mewn trafferthion,felly brysia! Ateb fi!

18 Tyrd yma! Gollwng fi'n rhydd!Gad i mi ddianc o afael y gelynion.

19 Ti'n gwybod fel dw i wedi cael fy sarhau,a'm bychanu a'm cywilyddio.Ti'n gweld y gelynion i gyd.

20 Mae'r sarhau wedi torri fy nghalon i.Dw i'n anobeithio.Dw i'n edrych am gydymdeimlad, ond yn cael dim;am rai i'm cysuro, ond does neb.

21 Yn lle hynny maen nhw'n rhoi gwenwyn yn fy mwyd,ac yn gwneud i mi yfed finegr i dorri fy syched.

22 Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl iddyn nhw,ac yn drap i'w ffrindiau nhw.

23 Gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall.Gwna iddyn nhw grynu mewn ofn drwy'r adeg.

24 Tywallt dy ddicter arnyn nhw.Gwylltia'n gynddeiriog gyda nhw.

25 Gwna eu gwersylloedd nhw yn anial,heb neb yn byw yn eu pebyll!

26 Maen nhw'n blino y rhai rwyt ti wedi eu taro,ac yn siarad am boen yr rhai rwyt ti wedi eu hanafu.

27 Ychwanega hyn at y pethau maen nhw'n euog o'u gwneud.Paid gadael iddyn nhw fynd yn rhydd!

28 Rhwbia eu henwau oddi ar sgrôl y rhai sy'n fyw,Paid rhestru nhw gyda'r bobl sy'n iawn gyda ti.

29 Ond fi – yr un sy'n dioddef ac mewn poen –O Dduw, achub fi a chadw fi'n saff.

30 Dw i'n mynd i ganu cân o fawl i Dduw;a'i ganmol a diolch iddo.

31 Bydd hynny'n plesio'r ARGLWYDD fwy nag ychen,neu darw gyda chyrn a charnau.

32 Bydd pobl gyffredin yn gweld hyn ac yn dathlu.Felly codwch eich calonnau, chi sy'n ceisio dilyn Duw!

33 Mae'r ARGLWYDD yn gwrando ar y rhai sydd mewn angen,a dydy e ddim yn diystyru ei bobl sy'n gaeth.

34 Boed i'r nefoedd a'r ddaear ei foli,a'r môr hefyd, a phopeth sydd ynddo!

35 Oherwydd bydd Duw yn achub Seionac yn adeiladu trefi Jwda eto.Bydd y bobl sy'n ei wasanaethuyn byw yno ac yn meddiannu'r wlad.

36 Bydd eu disgynyddion yn ei hetifeddu;a bydd y rhai sy'n caru ei enw yn cael byw yno.