1 Mae'r un sy'n parchu'r ARGLWYDDac yn gwneud beth mae e eisiau,wedi ei fendithio'n fawr.
2 Byddi'n bwyta beth fuost ti'ngweithio mor galed i'w dyfu.Byddi'n cael dy fendithio, a byddi'n llwyddo!
3 Bydd dy wraig fel gwinwydden ffrwythlon yn dy dŷ.Bydd dy feibion o gwmpas dy fwrddfel blagur ar goeden olewydd.
4 Dyna i ti sut mae'r dyn sy'n parchu'r ARGLWYDDyn cael ei fendithio!
5 Boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di o Seion!Cei weld Jerwsalem yn llwyddoam weddill dy fywyd,
6 A byddi'n cael byw i weld dy wyrion.Heddwch i Israel!