1 Mae'n beth da diolch i'r ARGLWYDD,a chanu mawl i dy enw di, y Duw Goruchaf.
2 Canu yn y bore am dy gariad,a chyda'r nos am dy ffyddlondeb,
3 i gyfeiliant offeryn dectant a nabla thannau'r delyn.
4 Ti'n fy ngwneud i mor hapus, O ARGLWYDD;a dw i'n canu'n uchel o achos y cwbl rwyt ti'n wneud.
5 Ti'n gwneud pethau mawr, O ARGLWYDD!Mae dy feddyliau di mor ddwfn!
6 Dim ond twpsyn sydd ddim yn gweld hynny;dim ond ffŵl fyddai ddim yn deall!
7 Mae pobl ddrwg yn llwyddo – ond maen nhw fel glaswellt –Er bod y rhai sy'n gwneud drwg fel petaen nhw'n blodeuo,byddan nhw'n cael eu dinistrio am byth!
8 Ond ti ydy'r Un sydd uwchlaw popeth,a hynny am byth, O ARGLWYDD.
9 Bydd dy elynion di, ARGLWYDD,bydd dy elynion di yn cael eu dinistrio!Bydd pawb sy'n gwneud drygioni yn cael eu gwasgaru!
10 Ti wedi fy ngwneud i'n gryf fel ych gwyllt;ti wedi fy eneinio i ag olew iraidd.
11 Bydda i'n cael gweld y gelynion sy'n fy ngwylio yn cael eu trechu;a chlywed y rhai drwg sy'n ymosod arna i yn chwalu.
12 Ond bydd y rhai cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd;ac yn tyfu'n gryf fel coed cedrwydd yn Libanus.
13 Maen nhw wedi eu plannu yn nheml yr ARGLWYDD,ac yn blodeuo yn yr iard sydd yno.
14 Byddan nhw'n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw'n hen;byddan nhw'n dal yn ffres ac yn llawn sudd.
15 Maen nhw'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD yn gyfiawn –mae e'n graig saff i mi,a does dim anghyfiawnder yn agos ato.