1 Haleliwia!Dw i'n diolch i'r ARGLWYDD o waelod calon,o flaen y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.
2 Mae'r ARGLWYDD yn gwneud pethau mor fawr!Maen nhw'n bleser pur i bawb sy'n myfyrio arnyn nhw.
3 Mae'r cwbl yn dangos ei ysblander a'i urddas,a'i fod e bob amser yn ffyddlon.
4 Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud!Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog!
5 Mae e'n rhoi bwyd i'w rai ffyddlon;mae bob amser yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e.
6 Dwedodd wrth ei bobl y byddai'n gwneud pethau mawr,a rhoi tir cenhedloedd eraill iddyn nhw.
7 Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn.Mae'r pethau mae'n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy,
8 ac yn sefyll am byth.Maen nhw'n ffyddlon ac yn deg.
9 Mae wedi gollwng ei bobl yn rhydd,ac wedi sicrhau fod ei ymrwymiad yn sefyll bob amser.Mae ei enw'n sanctaidd ac i gael ei barchu.
10 Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth.Mae pawb sy'n gwneud hynny yn gwneud y peth call.Mae e'n haeddu ei foli am byth!