1 Ro'n i wrth fy modd pan ddwedon nhw wrtho i,“Gadewch i ni fynd i deml yr ARGLWYDD.”
2 Dyma ni yn sefyll y tu mewn i dy giatiau,O Jerwsalem!
3 Mae Jerwsalem yn ddinas wedi ei hadeiladu,i bobl ddod at ei gilydd ynddi.
4 Mae'r llwythau yn mynd ar bererindod iddi,ie, llwythau'r ARGLWYDD.Mae'n ddyletswydd ar bobl Israeli roi diolch i'r ARGLWYDD.
5 Dyma ble mae'r llysoedd barn yn eistedd,llysoedd barn llywodraeth Dafydd.
6 Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem:“Boed i'r rhai sy'n dy garu di lwyddo.
7 Boed heddwch y tu mewn i dy waliau,a diogelwch o fewn dy gaerau.”
8 Er mwyn fy mhobl a'm ffrindiaudw i'n gweddïo am heddwch i ti.
9 Er mwyn teml yr ARGLWYDD ein Duw,dw i'n gofyn am lwyddiant i ti.