1 Gwranda, O ARGLWYDD, ac ateb fi!Dw i'n wan ac yn ddiamddiffyn.
2 Cadw fi'n saff. Dw i'n ffyddlon i ti!Achub dy was. Ti ydy fy Nuwa dw i'n dy drystio di.
3 Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD!Dw i wedi bod yn gweiddi arnat ti'n ddi-baid.
4 Gwna dy was yn llawen eto!Dw i'n gweddïo'n daer arnat ti ARGLWYDD.
5 Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau.Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy'n galw arnat ti!
6 Gwranda ar fy ngweddi, O ARGLWYDD!Edrych! Dw i'n erfyn am drugaredd!
7 Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat,am mai ti sy'n gallu fy ateb i.
8 Does dim un o'r duwiau eraill yn debyg i ti, ARGLWYDD!Does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud.
9 Bydd yr holl genhedloedd rwyt ti wedi eu creuyn dod ac yn plygu o dy flaen di, O ARGLWYDD!Byddan nhw'n anrhydeddu dy enw di,
10 am dy fod ti'n Dduw mawrac yn gwneud pethau anhygoel!Ti ydy'r unig Dduw go iawn!
11 Dysga fi sut i fyw, O ARGLWYDD,i mi dy ddilyn di'n ffyddlon.Gwna fi'n benderfynol o d'addoli di'n iawn.
12 Bydda i'n dy addoli o waelod calon, O ARGLWYDD fy Nuw,ac yn anrhydeddu dy enw am byth.
13 Mae dy gariad tuag ata i mor fawr!Ti wedi fy achub i o ddyfnder Annwn.
14 O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i.Mae yna griw creulon am fy lladd i,Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti.
15 Ond rwyt ti, O ARGLWYDD, mor drugarog a charedig,rwyt mor amyneddgar!Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di yn anhygoel!
16 Tro ata i, a dangos drugaredd!Rho dy nerth i dy was,Achub blentyn dy gaethferch!
17 Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni,er mwyn i'r rhai sy'n fy nghasáu i weld hynnya chael eu cywilyddio am dy fod ti, ARGLWYDD,wedi fy helpu i a'm cysuro.