1 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i;does gen i ofn neb.Mae'r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i,does neb yn fy nychryn.
2 Pan oedd dynion drwg yn ymosod arna ii'm llarpio fel ysglyfaeth –nhw (y gelynion oedd yn fy nghasáu),ie, nhw wnaeth faglu a syrthio.
3 Petai byddin gyfan yn dod yn fy erbyn i,fyddai gen i ddim ofn.Petai rhyfel ar fin torri allan,byddwn i'n gwbl hyderus.
4 Gofynnais i'r ARGLWYDD am un peth –dyma beth dw i wir eisiau:Dw i eisiau aros yn nhŷ'r ARGLWYDDam weddill fy mywyd;i ryfeddu ar haelioni'r ARGLWYDD,a myfyrio yn ei deml.
5 Bydd e'n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl;bydda i'n saff yn ei babell;Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel,allan o gyrraedd y gelyn.
6 Bydda i'n ennill y frwydryn erbyn y gelynion sydd o'm cwmpas.Bydda i'n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi'n llawen.Bydda i'n canu a chyfansoddi cerddoriaeth i foli'r ARGLWYDD.
7 O ARGLWYDD, gwranda arna i'n galw arnat ti.Bydd yn garedig ata i! Ateb fi!
8 Dw i'n gwybod dy fod ti'n dweud, “Ceisiwch fi!”Felly ARGLWYDD, dw i'n dy geisio di!
9 Paid troi cefn arna i! Paid gwthio fi i ffwrdd.Ti sy'n gallu fy helpu i!Paid gwrthod fi! Paid â'm gadael i.O Dduw, ti ydy'r un sy'n fy achub i!
10 Hyd yn oed petai dad a mam yn troi cefn arna i,byddai'r ARGLWYDD yn gofalu amdana i.
11 Dangos i mi sut rwyt ti eisiau i mi fyw, O ARGLWYDD.Arwain fi ar hyd y llwybr iawn,achos mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn fy ngwylio i.
12 Paid gadael i'm gelynion i gael eu ffordd.Mae tystion celwyddog yn codiac yn tystio yn fy erbyn i.
13 Ond dw i'n gwybod yn iawny bydda i'n profi daioni'r ARGLWYDDar dir y byw!
14 Gobeithia yn yr ARGLWYDD!Bydd yn ddewr ac yn hyderus!Ie, gobeithia yn yr ARGLWYDD!