1 Haleliwia!Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD,Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.
2 Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr!Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin!
3 Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns;ac ar y drwm a'r delyn fach.
4 Achos mae'r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda'i bobl!Mae'n gwisgo'r rhai sy'n cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth.
5 Boed i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu;a gweiddi'n llawen wrth orffwys ar eu clustogau.
6 Canu mawl i Dduwgyda chleddyfau miniog yn eu dwylo,
7 yn barod i gosbi'r cenhedloedd,a dial ar y bobloedd.
8 Gan rwymo eu brenhinoedd â chadwyni,a'u pobl bwysig mewn hualau haearn.
9 Dyma'r ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw;a'r fraint fydd i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon.Haleliwia!