1 Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni.Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion.
2 Felly fydd gynnon ni ddim ofnhyd yn oed petai'r ddaear yn ysgwyd,a'r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr
3 gyda'i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu.Mae'r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo! Saib
4 Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen.Ie, y ddinas lle mae'r Duw Goruchaf yn byw.
5 Mae Duw yn ei chanol – fydd hi byth yn syrthio!Bydd Duw yn dod i'w helpu yn y bore bach.
6 Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio.Pan mae Duw yn taranu mae'r ddaear yn toddi.
7 Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni!Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib
8 Dewch i weld beth mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud;y difrod rhyfeddol mae wedi ei ddwyn ar y ddaear!
9 Mae'n dod a rhyfeloedd i ben drwy'r ddaear gyfan;Mae'n malu'r bwa ac yn torri'r waywffon,ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.
10 “Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!Dw i'n llawer uwch na'r cenhedloedd;dw i'n llawer uwch na'r ddaear gyfan.”
11 Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni!Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib