1 O Dduw, paid bod yn ddistaw!Paid diystyru ni a gwneud dim!
2 Edrych! Mae dy elynion di'n codi twrw.Mae'r rhai sy'n dy gasáu di yn codi eu pennau.
3 Maen nhw mor gyfrwys, ac yn cynllwynio yn erbyn dy bobl di.Maen nhw am wneud niwed i'r rhai rwyt ti'n eu trysori!
4 Maen nhw'n dweud, “Gadewch i ni eu difa nhw'n llwyr!Fydd dim sôn am genedl Israel byth mwy.”
5 Maen nhw'n unfrydol yn eu bwriad,ac wedi ffurfio cynghrair yn dy erbyn di –
6 pobl Edom a'r Ismaeliaid,Moab a'r Hagriaid,
7 Gebal, Ammon, ac Amalec,Philistia a phobl Tyrus.
8 Mae Asyria wedi ymuno â nhw hefyd,i roi help llaw i ddisgynyddion Lot. Saib
9 Delia gyda nhw fel y gwnest ti gyda Midian –fel y gwnest ti i Sisera a Jabin,wrth afon Cison.
10 Cawson nhw eu dinistrio yn En-dor.Roedd eu cyrff fel tail ar wyneb y tir!
11 Delia gyda'i harweinwyr nhwfel y gwnest ti gydag Oreb a Seeb.Gwna eu tywysogion nhwfel Seba a Tsalmwna,
12 oedd am ddwyn y tir i gyd oddi ar Dduw.
13 O fy Nuw, trin nhw fel plu ysgall,neu us yn cael ei chwythu gan y gwynt!
14 Difa nhw, fel mae tân yn llosgi coedwig,a'i fflamau'n lledu dros y bryniau.
15 Dos ar eu hôl nhw â'th storm,a'u dychryn nhw â'th gorwynt.
16 Coda gywilydd arnyn nhw,a gwna iddyn nhw dy gydnabod di, O ARGLWYDD.
17 Cywilydd a dychryn fydd byth yn dod i ben!Gad iddyn nhw farw yn eu gwarth!
18 Byddan nhw'n deall wedyn mai ti ydy'r ARGLWYDD,ie, ti yn unig!Ti ydy'r Duw Goruchaf sy'n rheoli'r byd i gyd!