Salm 31 BNET

Trystio Duw

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD;paid gadael i mi gael fy siomi.Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi.

2 Gwranda arna i!Achub fi'n fuan!Bydd yn graig ddiogel i mi,yn gaer lle bydda i'n hollol saff.

3 Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer.Cadw dy enw da,dangos y ffordd i mi ac arwain fi.

4 Rhyddha fi o'r rhwyd sydd wedi ei gosod i'm dal i,Ie, ti ydy fy lle diogel i.

5 Dw i'n rhoi fy mywyd yn dy ddwylo di.Dw i'n gwybod y gwnei di fy rhyddhau iachos ti, o ARGLWYDD, ydy'r Duw ffyddlon.

6 Dw i'n casáu'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth;ond dw i'n dy drystio di, ARGLWYDD.

7 Bydda i'n dathlu'n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon.Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna iac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo,

8 Paid gadael i'r gelyn fy nal i;gad i mi ddianc i le agored.

9 Helpa fi, O ARGLWYDD,mae hi'n argyfwng arna i.Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder –fy nghorff i gyd i ddweud y gwir.

10 Dw i'n cael fy llethu gan boen;mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan.Mae pechod wedi fy ngwneud i'n wan,ac mae fy esgyrn yn frau.

11 Mae'r holl elynion sydd gen iyn gwneud hwyl ar fy mhen.Mae fy ffrindiau yn arswydo;mae pobl yn cadw draw pan maen nhw'n fy ngweld i ar y stryd.

12 Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw!Dw i'n dda i ddim, fel jar sydd wedi torri.

13 Dw i'n clywed beth maen nhw'n ei sibrwd,a'r straeon ofnadwy sy'n dod o bob cyfeiriad.Maen nhw'n cynllwynio yn fy erbyn i;maen nhw eisiau fy lladd i.

14 Ond dw i'n dy drystio di, O ARGLWYDD.Dw i'n datgan yn glir, “Ti ydy fy Nuw i!”

15 Dw i yn dy ddwylo diachub fi o afael y gelynion sydd ar fy ôl i.

16 Bydd yn garedig at dy was.Dangos mor ffyddlon wyt ti! Achub fi!

17 O ARGLWYDD, paid â'm siomi pan dw i'n galw arnat.Gwna i'r rhai drwg gael eu siomi!Cau eu cegau nhw unwaith ac am byth!

18 Rho daw ar y rhai sy'n dweud celwydd;y bobl hynny sy'n herio'r rhai sy'n byw'n iawnac mor haerllug a dirmygus ohonyn nhw.

19 Ond mae gen ti gymaint o bethau dai'w rhoi i'r rhai sy'n dy addoli di.O flaen pawb, byddi'n rhoi'r cwbl iddyn nhw,sef y rhai sy'n troi atat ti am loches.

20 Rwyt ti gyda nhw, ac yn ei cuddiorhag y dynion sy'n cynllwynio yn eu herbyn.Ti'n cysgodi drostyn nhwac maen nhw'n saffrhag y tafodau miniog sy'n ymosod.

21 Bendith ar yr ARGLWYDD!Mae wedi bod yn anhygoel o ffyddlonpan oedd y gelynion yn ymosod.

22 Ro'n i mewn panig, ac yn meddwl,“Dwyt ti ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi!”Ond na, pan oeddwn i'n crefu am helproeddet ti wedi clywed.

23 Felly carwch yr ARGLWYDD,chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon!Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,ond mae'n talu'n ôl yn llawn i'r rhai sy'n haerllug.

24 Byddwch yn ddewr a hyderus,chi sy'n credu y bydd yr ARGLWYDD yn eich ateb chi.