1 O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i,a dweud y drefn yn dy wylltineb.
2 Mae dy saethau wedi fy anafu;mae dy law wedi fy nharo i.
3 Dw i'n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di!Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu.
4 Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i;mae fel baich sy'n rhy drwm i'w gario.
5 Mae'r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi;a'r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp.
6 Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohona i'n hun.Dw i'n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy'r dydd.
7 Mae fy ochrau'n boenus i gyd;dw i'n teimlo'n sâl trwyddo i.
8 Mae rhyw boen mud yn fy llethu'n llwyr.Dw i'n griddfan mewn gwewyr meddwl.
9 O ARGLWYDD, ti'n gwybod yn iawn be dw i eisiau!Rwyt ti wedi clywed fi'n griddfan.
10 Mae fy nghalon i'n curo'n gyflym;does gen i ddim nerth, a dw i'n colli fy ngolwg.
11 Mae fy ffrindiau a'm teulu yn cadw draw oddi wrtho i;a'm cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd.
12 Mae'r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi,a'r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad y faleisusac yn dweud pethau twyllodrus drwy'r adeg.
13 Ond dw i'n ymateb fel tawn i'n fyddar – yn gwrthod gwrando.Dw i'n ymddwyn fel rhywun sy'n fud – yn dweud dim.
14 Dw i'n clywed dim,a dw i ddim am ddadlau gyda nhw.
15 Ond ARGLWYDD, dw i'n disgwyl amdanat ti;byddi di'n eu hateb nhw, fy meistr a'm Duw.
16 Dw i'n gweddïo, “Paid rhoi'r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!”Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro!
17 Dw i'n darfod amdana i!Dw i mewn poen ofnadwy drwy'r adeg.
18 Dw i'n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg.Dw i'n poeni am fy mhechod.
19 Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos!Cymaint o rai sy'n fy nghasáu i am ddim rheswm!
20 Pobl sy'n talu drwg am dda,ac yn tynnu'n groes am i mi geisio gwneud beth sy'n iawn.
21 Paid gadael fi, ARGLWYDD!O Dduw, paid ti cadw draw!
22 Brysia! Helpa fi,O ARGLWYDD, fy achubwr!