1 Achub fy ngham, O ARGLWYDD,dw i wedi bod yn onest.Dw i wedi dy drystio di ARGLWYDDbob amser.
2 Archwilia fi, ARGLWYDD; gosod fi ar brawf!Treiddia i'm meddwl a'm cydwybod.
3 Dw i'n gwybod mor ffyddlon wyt ti –a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen.
4 Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy'n twyllo,nac yn cymysgu gyda rhai sy'n anonest.
5 Dw i'n casáu cwmni dynion drwg,ac yn gwrthod cyngor pobl felly.
6 Dw i'n golchi fy nwylo'n lân,ac am gerdded o gwmpas dy allor, O ARGLWYDD.
7 Dw i eisiau diolch i ti,a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti.
8 O ARGLWYDD, dw i'n caru'r deml lle rwyt ti'n byw;y fan lle mae dy ysblander i'w weld.
9 Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid,na'm lladd gyda'r bobl dreisgar
10 sydd bob amser yn cynllwyn rhyw ddrwg,neu'n barod i gynnig breib.
11 Dw i wedi bod yn onest.Gollwng fi'n rhydd! Bydd yn garedig ata i!
12 Dw i'n gwybod fy mod i'n saff.Bydda i'n addoli'r ARGLWYDD eto gyda'i bobl.