1 Ydw, dw i'n disgwyl yn dawel am Dduw;fe ydy'r un all fy achub i.
2 Ie, fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
3 Pryd ydych chi'n mynd i stopio ymosod ar ddyn?Ymosod arno i'w ddifa fel wal sydd ar fin syrthio,neu ffens sy'n simsan?
4 Ydyn, maen nhw'n cynllunio i'w fwrw i lawro'i safle dylanwadol.Maen nhw wrth eu boddau gyda chelwydd;maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig,ond yn ei felltithio yn eu calonnau. Saib
5 Ie, disgwyl di'n dawel am Dduw, fy enaid,achos fe ydy dy obaith di.
6 Fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
7 Mae Duw'n edrych ar ôl fy lles i,ac mae'n rhoi nerth i mi.Dw i'n gadarn fel y graig,ac yn hollol saff gyda Duw.
8 Gallwch ei drystio fe bob amser, bobl!Tywalltwch beth sydd ar eich calon o'i flaen.Duw ydy'n hafan ddiogel ni. Saib
9 Dydy pobl gyffredin ddim byd ond anadl;a pobl bwysig yn ddim ond rhith!Rhowch nhw ar glorian ac mae hi'n codi! –maen nhw i gyd yn pwyso llai nag anadl.
10 Peidiwch trystio trais i ennill cyfoeth.Peidiwch rhoi'ch gobaith mewn lladrad.Os ydych chi'n ennill cyfoeth mawrpeidiwch dibynnu arno.
11 Un peth mae Duw wedi ei ddweud,ac mae wedi ei gadarnhau:Duw ydy'r un nerthol,
12 Ie ti, O ARGLWYDD, ydy'r un ffyddlon,sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu.