1 Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i;mae gen i bopeth dw i angen.
2 Mae'n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd;ac yn fy arwain at ddŵr glân sy'n llifo'n dawel.
3 Mae'n rhoi bywyd newydd i mi,ac yn dangos i mi'r ffordd iawn i fynd.Ydy, mae e'n enwog am ei ofal.
4 Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd,fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi.Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.
5 Rwyt ti'n paratoi gwledd i miac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio.Rwyt ti'n tywallt olew ar fy mhen.Mae gen i fwy na digon!
6 Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlongyda mi weddill fy mywyd.A byddaf yn byw eto yn nhŷ'r ARGLWYDDam byth.