1 Chi arweinwyr, ydych chi'n rhoi dedfryd gyfiawn?Ydych chi'n barnu pobl yn deg?
2 Na! Dych chi'n anghyfiawn,ac yn lledu trais ym mhobman.
3 Mae rhai drwg felly yn troi cefn ers cael eu geni;yn dweud celwydd a mynd eu ffordd eu hunain o'r dechrau.
4 Maen nhw'n brathu fel neidr wenwynig,neu gobra sy'n cau ei chlustiau.
5 Mae'n gwrthod gwrando ar alaw y swynwr,er mor hyfryd ydy'r alaw i'w hudo.
6 Torra eu dannedd nhw, O Dduw!Dryllia ddannedd y llewod ifanc, ARGLWYDD.
7 Gwna iddyn nhw ddiflannu fel dŵr mewn tir sych;gwna iddyn nhw saethu saethau wedi eu torri.
8 Gwna nhw fel ôl malwen yn toddi wrth iddi symud;neu blentyn wedi marw yn y groth cyn gweld golau dydd!
9 Bydd Duw yn eu hysgubo nhw i ffwrdd fel storm wyllt,cyn i grochan deimlo gwres tân agored.
10 Bydd y duwiol mor hapus wrth weld dial ar yr annhegwch.Byddan nhw'n trochi eu traed yng ngwaed y rhai drwg!
11 A bydd pobl yn dweud,“Felly mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael gwobr!Mae yna Dduw sydd yn barnu ar y ddaear!”