1 Dw i'n edrych i fyny i'r mynyddoedd.O ble daw help i mi?
2 Daw help oddi wrth yr ARGLWYDD,yr Un wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear.
3 Fydd e ddim yn gadael i dy droed lithro;dydy'r Un sy'n gofalu amdanat ddim yn cysgu.
4 Wrth gwrs! Dydy'r un sy'n gofalu am Israelddim yn gorffwys na chysgu!
5 Yr ARGLWYDD sy'n gofalu amdanat ti;mae'r ARGLWYDD wrth dy ochr diyn dy amddiffyn di.
6 Fydd yr haul ddim yn dy lethu di ganol dydd,na'r lleuad yn effeithio arnat ti yn y nos.
7 Bydd yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn rhag pob perygl;bydd yn dy gadw di'n fyw.
8 Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw di'n saffble bynnag ei di,o hyn allan ac am byth.