1 Mae'r rhai sy'n trystio'r ARGLWYDDfel Mynydd Seion –does dim posib ei symud,mae yna bob amser.
2 Fel mae Jerwsalem gyda bryniau o'i chwmpas,mae'r ARGLWYDD yn cofleidio ei boblo hyn allan ac am byth.
3 Fydd teyrnwialen drygioni ddim yn cael arosar y tir sydd wedi ei roi i'r rhai cyfiawn,rhag i'r rhai cyfiawn droi at ddrygioni.
4 Bydd yn dda, O ARGLWYDD, at y rhai da,sef y rhai hynny sy'n byw yn iawn.
5 Ond am y bobl sy'n dilyn eu ffyrdd troëdig –boed i'r ARGLWYDD eu symud nhw o'r fforddgyda'r rhai sy'n gwneud drwg.Heddwch i Israel!