1 O ARGLWYDD, arnat ti dw i'n galw!Paid diystyru fi – ti ydy fy nghraig i.Os gwnei di ddim atebbydda i'n siŵr o ddisgyn i'r bedd!
2 Gwranda arna i'n galw –dw i'n erfyn am drugaredd!Dw i'n estyn fy nwyloat dy deml sanctaidd.
3 Paid llusgo fi i ffwrdd gyda'r rhai drwg,y bobl hynny sy'n gwneud dim byd ond drwg.Maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedigond does dim byd ond malais yn y galon.
4 Tala yn ôl iddyn nhw am wneud y fath beth!Rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu!Cosba nhw!
5 Dŷn nhw ddim yn deally ffordd mae'r ARGLWYDD yn gweithio.Bydd e'n eu bwrw nhw i lawr,a fyddan nhw byth yn codi eto!
6 Bendith ar yr ARGLWYDD!Ydy, mae e wedi gwrando arna i yn erfyn am drugaredd!
7 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi;mae e'n darian i'm hamddiffyn.Dw i'n ei drystio fe'n llwyr.Daeth i'm helpu, a dw i wrth fy modd!Felly dw i'n mynd i ganu mawl iddo!
8 Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin.
9 Achub dy bobl!Bendithia dy bobl sbesial!Gofala amdanyn nhw fel bugaila'u cario yn dy freichiau bob amser!