1 O ARGLWYDD, y Duw sy'n fy achub,dw i'n gweiddi am dy help bob dyddac yn gweddïo arnat ti bob nos.
2 Plîs cymer sylw o'm gweddi,a gwranda arna i'n galw arnat ti.
3 Dw i mewn helynt dychrynllyd;yn wir, dw i bron marw.
4 Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i'r bedd.Dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd,
5 ac wedi ei adael i farw a'i daflu i fedd cyffredingyda'r milwyr eraill sydd wedi eu lladd –y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach,ac sydd ddim angen dy ofal bellach.
6 Ti wedi fy ngosod i ar waelod y Pwll,mewn tywyllwch dudew yn y dyfnder.
7 Mae dy ddig yn pwyso'n drwm arna i.Dw i'n boddi dan dy donnau di. Saib
8 Ti wedi gwneud i'm ffrindiau agos gadw draw;dw i'n ffiaidd yn eu golwg nhw.Dw i wedi fy nal ac yn methu dianc.
9 Mae fy llygaid yn wan gan flinder;O ARGLWYDD, dw i wedi galw arnat ti bob dydd;dw i'n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti.
10 Wyt ti'n gwneud gwyrthiau i'r rhai sydd wedi marw?Ydy'r meirw yn codi i dy foli di? Saib
11 Ydy'r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon?Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon?
12 Ydy'r rhai sy'n y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau?Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof?
13 Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD.Dw i'n gweddïo arnat ti bob bore.
14 Felly pam, O ARGLWYDD, wyt ti'n fy ngwrthod i?Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?
15 Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc;dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy,nes fy mod wedi fy mharlysu.
16 Mae dy lid wedi llifo drosta i;mae dy ddychryn wedi fy ninistrio.
17 Mae'r cwbl yn troelli o'm cwmpas fel llifogydd;maen nhw'n cau amdana i o bob cyfeiriad.
18 Ti wedi gwneud i ffrindiau a chymdogion gadw draw oddi wrtho i –Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy'r tywyllwch!