1 Achub fi, O ARGLWYDD, rhag pobl ddrwg.Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol,
2 sy'n cynllwynio i wneud drwg i mi,ac yn ymosod a chreu helynt.
3 Mae ganddyn nhw dafodau miniog;maen nhw'n brathu fel nadroedd,ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau. Saib
4 O ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi!Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiolsydd eisiau fy maglu i.
5 Mae dynion balch yn cuddio trap i mi;pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi;ac yn gosod maglau ar fy llwybr. Saib
6 Dywedais wrth yr ARGLWYDD: “Ti ydy fy Nuw i.”Gwranda, O ARGLWYDD, wrth i mi erfyn am drugaredd!
7 O ARGLWYDD, Meistr, ti ydy'r un cryf sy'n achub;ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr.
8 O ARGLWYDD, paid gadael i'r rhai drwg gael eu ffordd!Paid gadael i'w cynllwyn nhw lwyddo,rhag iddyn nhw ymffrostio. Saib
9 Ac am y rhai sydd o'm cwmpas i –boed i'r pethau drwg maen nhw wedi ddweud eu llethu!
10 Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw!Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto!
11 Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir.Gad i ddrygioni'r dynion treisgar eu hela nhw a'u bwrw nhw i lawr.
12 Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDDyn gweithredu ar ran y rhai sy'n diodde.Bydd yn sicrhau cyfiawnder i'r rhai mewn angen.
13 Bydd y rhai cyfiawn yn sicr yn moli dy enw di!Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn aros yn dy gwmni di.