1 Dw i'n gweiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD;dw i'n pledio ar i'r ARGLWYDD fy helpu.
2 Dw i'n tywallt y cwbl sy'n fy mhoeni o'i flaen,ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion.
3 Pan dw i wedi anobeithio'n llwyr,rwyt ti'n gwylio'r ffordd i mi.Maen nhw wedi cuddio maglar y llwybr o'm blaen i.
4 Dw i'n edrych i'r dde –ond does neb yn cymryd sylw ohono i.Mae dianc yn amhosib! –does neb yn poeni amdana i.
5 Dw i'n gweiddi arnat ti, ARGLWYDD;a dweud, “Ti ydy'r unig le saff i mi fynd,does gen i neb arall ar dir y byw!”
6 Gwranda arna i'n gweiddi, dw i'n teimlo mor isel.Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl;maen nhw'n rhy gryf i mi.
7 Gollwng fi'n rhydd o'r carchar yma,er mwyn i mi foli dy enw di.Bydd y rhai cyfiawn yn casglu o'm cwmpasam dy fod ti wedi achub fy ngham.