1 Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr ni– gall Israel ddweud yn glir –
2 Oni bai fod yr ARGLWYDD ar ein hochr nipan oedd dynion yn ymosod arnon ni,
3 bydden nhw wedi'n llyncu ni'n fyw.Roedden nhw mor ffyrnig yn ein herbyn!
4 Bydden ni wedi'n llethu'n llwyr gan y dyfroeddac wedi boddi yn y llifogydd!
5 Byddai rhuthr y dŵr wedi'n llethu.
6 Bendith ar yr ARGLWYDD!Wnaeth e ddim gadaeli'w dannedd ein rhwygo ni.
7 Dŷn ni fel aderyn wedi dianc o drap yr heliwr;torrodd y trap a dyma ni'n llwyddo i ddianc.
8 Yr ARGLWYDD wnaeth ein helpu –Crëwr y nefoedd a'r ddaear.