1 Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw;a chyflawni'n haddewidion i ti.
2 Ti sy'n gwrando gweddïau,boed i bob person byw ddod atat ti!
3 Pan mae'n holl bechodau yn ein llethu ni,rwyt ti'n maddau'r gwrthryfel i gyd.
4 Y fath fendith sydd i'r rhai rwyt ti'n eu dewis,a'u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml.Llenwa ni â bendithion dy dŷ,sef dy deml sanctaidd!
5 Ti'n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau'n iawn,a'n hateb O Dduw, ein hachubwr.Mae pobl drwy'r byd i gyd,ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti.
6 Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle;Rwyt ti mor gryf!
7 Ti sy'n tawelu'r môr stormus,a'i donnau gwyllt,a'r holl bobloedd sy'n codi terfysg.
8 Mae pobl ym mhen draw'r bydwedi eu syfrdanu gan dy weithredoedd.O'r dwyrain i'r gorllewinmaen nhw'n gweiddi'n llawen.
9 Ti'n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrioa'i gwneud yn hynod ffrwythlon.Mae'r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr!Ti'n rhoi ŷd i bobldrwy baratoi'r tir fel yma.
10 Ti'n socian y cwysiac mae dŵr yn llifo i'r rhychau.Ti'n mwydo'r tir â chawodydd,ac yn bendithio'r cnwd sy'n tyfu.
11 Dy ddaioni di sy'n coroni'r flwyddyn!Mae dy lwybrau'n diferu digonedd!
12 Mae hyd yn oed porfa'r anialwch yn diferu,a'r bryniau wedi eu gwisgo â llawenydd!
13 Mae'r caeau wedi eu gorchuddio gyda defaid a geifr,a'r dyffrynnoedd yn gwisgo mantell o ŷd.Maen nhw'n gweiddi ac yn canu'n llawen.