1 Gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDDholl bobl y byd!
2 Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen;a dod o'i flaen gan ddathlu!
3 Cyffeswch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw;Fe ydy'r un a'n gwnaeth ni,a ni ydy ei bobl e –y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw.
4 Ewch drwy'r giatiau gan ddiolch iddo,ac i mewn i'w deml yn ei foli!Rhowch ddiolch iddo!A bendithio ei enw!
5 Achos mae'r ARGLWYDD mor dda!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd;ac mae'n aros yn ffyddlon o un genhedlaeth i'r llall.