1 Dangos drugaredd ata i, O Dduw,dangos drugaredd ata i!Dw i'n troi atat ti am loches.Dw i am guddio dan dy adenydd dines bydd y storm yma wedi mynd heibio.
2 Dw i'n galw ar Dduw, y Goruchaf;ar y Duw sydd mor dda tuag ata i.
3 Bydd yn anfon help o'r nefoedd i'm hachub.Bydd yn herio y rhai sy'n fy erlid. Saib Bydd yn dangos ei ofal ffyddlon amdana i!
4 Mae llewod ffyrnig o'm cwmpas i ym mhobman,rhai sy'n bwyta pobl –Mae eu dannedd fel picellau neu saethau,a'u tafodau fel cleddyfau miniog.
5 Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
6 Maen nhw wedi gosod rhwyd i geisio fy nal –a minnau'n isel fy ysbryd.Maen nhw wedi cloddio twll ar fy nghyfer i,ond nhw fydd yn syrthio i mewn iddo! Saib
7 Dw i'n benderfynol, O Dduw;dw i'n hollol benderfynol!Dw i'n mynd i ganu mawl i ti!
8 Deffro, fy enaid!Deffro, nabl a thelyn!Dw i'n mynd i ddeffro'r wawr gyda'm cân.
9 Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb!Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl!
10 Mae dy gariad di mor uchel â'r nefoedd,a dy ffyddlondeb di yn uwch na'r cymylau.
11 Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!