Salm 145 BNET

Emyn o fawl

Cân o fawl. Salm Dafydd.

1 Dw i'n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a'm brenin,a bendithio dy enw di am byth bythoedd!

2 Dw i eisiau dy ganmol di bob dydda dy foli di am byth bythoedd!

3 Mae'r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli!Mae ei fawredd tu hwnt i'n deall ni.

4 Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd,ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.

5 Byddan nhw'n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd,a bydda i'n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti'n eu gwneud.

6 Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud,a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawrion.

7 Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di,ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder.

8 Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog;mor amyneddgar ac anhygoel o hael!

9 Mae'r ARGLWYDD yn dda i bawb;mae'n dangos tosturi at bopeth mae wedi ei wneud.

10 Mae'r cwbl rwyt ti wedi ei greu yn dy foli di, O ARGLWYDD!Ac mae'r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio!

11 Byddan nhw'n dweud am ysblander dy deyrnasiad,ac yn siarad am dy nerth;

12 er mwyn i'r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud,ac am ysblander dy deyrnasiad.

13 Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd,ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau!Mae'r ARGLWYDD yn cadw ei air;ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.

14 Mae'r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy'n syrthio,ac yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.

15 Mae popeth byw yn edrych yn ddisgwylgar arnat ti,a ti'n rhoi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.

16 Mae dy law di yn agored; rwyt ti mor hael!Ti'n rhoi'r bwyd sydd ei angen i bob creadur byw.

17 Mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn bob amser,ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.

18 Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy'n galw arno;at bawb sy'n ddidwyll pan maen nhw'n galw arno.

19 Mae'n rhoi eu dymuniad i'r rhai sy'n ei barchu;mae'n eu clywed nhw'n galw, ac yn eu hachub.

20 Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pawb sy'n ei garu,ond bydd yn dinistrio'r rhai drwg i gyd.

21 Bydda i'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD i'w foli,a bydd pob creadur byw yn bendithio ei enw sanctaidd,… am byth bythoedd!