Salm 94 BNET

Duw, y Barnwr

1 O Dduw sy'n dial pob cam! O ARGLWYDD!O Dduw sy'n dial pob cam, disgleiria!

2 Cod ar dy draed, Farnwr y ddaear,a rhoi beth maen nhw'n haeddu i'r rhai balch!

3 Am faint mwy mae'r rhai drwg, O ARGLWYDD –am faint mwy mae'r rhai drwg i gael dathlu?

4 Maen nhw'n chwydu eu geiriau balchwrth frolio eu hunain.

5 Maen nhw'n sathru dy bobl dan draed, O ARGLWYDD,ac yn cam-drin dy etifeddiaeth.

6 Mae'n nhw'n lladd y gweddwon a'r mewnfudwyr,ac yn llofruddio'r plant amddifad.

7 Maen nhw'n meddwl, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld,dydy Duw Jacob yn cymryd dim sylw.”

8 Chi bobl dwp, mae'n bryd i chi ddeall!Chi ffyliaid, pryd ydych chi'n mynd i gallio?

9 Ydy'r un roddodd siâp i'r glust ddim yn clywed?Ydy'r un wnaeth greu y llygad ddim yn gweld?

10 Ydy'r un sy'n disgyblu'r cenhedloedd ddim yn cosbi? –Fe ydy'r un sy'n dysgu gwersi i'r ddynoliaeth!

11 Mae'r ARGLWYDD yn gwybod fod cynlluniau dynolyn wastraff amser, fel tarth yn diflannu!

12 Mae'r un sy'n cael ei ddisgyblu gen ti wedi ei fendithio'n fawr, ARGLWYDD;yr un rwyt ti'n dysgu dy gyfraith iddo.

13 Mae'n dawel ei feddwl pan mae pethau'n anodd.Mae'n gwybod y bydd y rhai drwg yn syrthio i dwll.

14 Fydd yr ARGLWYDD ddim yn siomi ei bobl.Fydd e ddim yn troi cefn ar ei etifeddiaeth.

15 Cyfiawnder fydd yn cario'r dydd,a'r rhai sy'n byw'n gywir yn ei ddilyn.

16 Oes rhywun am ochri gyda fi yn erbyn y rhai drwg?Oes rhywun am sefyll hefo fi yn erbyn pobl ddrwg?

17 Na, byddai ar ben arna ioni bai fod yr ARGLWYDD wedi fy helpu!

18 Pan oeddwn i'n dweud, “Dw i'n llithro! Mae ar ben arna i!”roedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.

19 Pan oeddwn i'n poeni am bob math o bethau,roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i'n llawen.

20 Wyt ti'n gallu partneru gyda llywodraeth anghyfiawnsy'n achosi dioddefaint trwy ei deddfau?

21 Maen nhw'n casglu at ei gilydd yn erbyn y cyfiawn;ac yn condemnio pobl ddiniwed i farwolaeth.

22 Ond mae'r ARGLWYDD yn gaer ddiogel i mi;mae fy Nuw yn graig lle dw i'n hollol saff.

23 Bydd e'n talu'n ôl iddyn nhw am eu drygioni!Bydd e'n defnyddio eu drygioni eu hunain i'w dinistrio!Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu dinistrio nhw!