1 Dw i'n dy ganmol di, O ARGLWYDD,am i ti fy nghodi ar fy nhraed;wnest ti ddim gadael i'm gelynion ddathlu.
2 O ARGLWYDD, fy Nuw,gwaeddais arnat tia dyma ti'n fy iacháu i.
3 O ARGLWYDD, codaist fi allan o fyd y meirw;a'm cadw rhag disgyn i'r bedd.
4 Canwch i'r ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon,a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!
5 Dim ond am foment mae e'n ddig.Pan mae'n dangos ei ffafr mae'n rhoi bywyd.Gall rhywun fod yn crïo wrth fynd i orwedd gyda'r nos;ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu'n llawen.
6 Roedd popeth yn mynd yn ddaa minnau'n meddwl, “All dim byd fynd o'i le.”
7 Pan oeddet ti'n dangos dy ffafr, ARGLWYDD,roeddwn i'n gadarn fel y graig.Ond dyma ti'n troi dy gefn arna i,ac roedd arna i ofn am fy mywyd.
8 Dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD,ac yn pledio arnat ti fy Meistr:
9 “Beth ydy'r pwynt os gwna i farw,a disgyn i'r bedd?Fydd fy llwch i'n gallu dy foli di?Fydd e'n gallu sôn am dy ffyddlondeb?
10 Gwranda arna i, ARGLWYDD,dangos drugaredd ata i.O ARGLWYDD, helpa fi!”
11 Yna dyma ti'n troi fy nhristwch yn ddawns;tynnu'r sachliain a rhoi gwisg i mi ddathlu!
12 Felly dw i'n mynd i ganu i ti gyda'm holl galon –wna i ddim tewi!O ARGLWYDD fy Nuw,bydda i'n dy foli di bob amser.