1 Wyt ti'n falch o'r drwg wnest ti,ac yn meddwl dy fod ti'n dipyn o arwr?Wel, dw i'n gwybod fod Duw yn ffyddlon!
2 Rwyt ti'n cynllwynio dinistr,ac mae dy dafod di fel rasel finiog, y twyllwr!
3 Mae drwg yn well na da gen ti,a chelwydd yn well na dweud y gwir. Saib
4 Ti'n hoffi dweud pethau sy'n gwneud niwed i bobl,ac yn twyllo pobl.
5 Ond bydd Duw yn dy daro i lawr unwaith ac am byth!Bydd yn dy gipio allan o dy babell,ac yn dy lusgo i ffwrdd o dir y byw. Saib
6 Bydd y rhai sy'n iawn gyda Duw yn gweld y peth,ac wedi eu syfrdanu.Byddan nhw'n chwerthin ar dy ben, ac yn dweud,
7 “Edrychwch! Dyma'r dyn oedd yn gwrthod troi at Dduw am help!Y dyn oedd yn pwyso ar ei gyfoeth,ac yn meddwl ei fod yn dipyn o foi yn dinistrio pobl eraill!”
8 Ond dw i'n llwyddo fel coeden olewydd sy'n tyfu yn nhŷ Dduw!Dw i'n trystio Duw am ei fod yn ffyddlon bob amser.
9 Bydda i'n dy foli di am byth, O Dduw,am beth rwyt ti wedi ei wneud.Dw i'n mynd i obeithio yn dy enw di.Mae'r rhai sy'n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti!