Salm 71 BNET

Gweddi rhywun mewn oed

1 Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD;paid gadael i mi gael fy siomi.

2 Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi a gollwng fi'n rhydd.Gwranda arna i! Achub fi!

3 Bydd yn graig i mi gysgodi tani –yn gaer lle bydda i'n hollol saff!Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer.

4 Fy Nuw, achub fi o ddwylo'r rhai drwg,ac o afael y rhai anghyfiawn a chreulon.

5 Achos ti ydy fy ngobaith i,fy meistr, fy ARGLWYDD.Dw i wedi dy drystio di ers pan o'n i'n ifanc.

6 Dw i'n dibynnu arnat ti ers cyn i mi gael fy ngeni;ti wedi gofalu amdana i o groth fy mam;a ti ydy testun fy mawl bob amser.

7 Dw i wedi bod yn destun rhyfeddod i lawer,am dy fod ti wedi bod yn lle saff, cadarn i mi.

8 Dw i'n dy foli di drwy'r adeg,ac yn dy ganmol drwy'r dydd.

9 Paid taflu fi ffwrdd yn fy henaint;a'm gadael wrth i'r corff wanhau!

10 Mae fy ngelynion yn siarad amdana i;a'r rhai sy'n gwylio fy mywyd yn cynllwynio.

11 “Mae Duw wedi ei adael,” medden nhw;“Ewch ar ei ôl a'i ddal;fydd neb yn dod i'w achub!”

12 O Dduw, paid mynd yn rhy bell!Fy Nuw, brysia i'm helpu i!

13 Gad i'r rhai sy'n fy erbyn i gael eu cywilyddio'n llwyr.Gad i'r rhai sydd am wneud niwed i migael eu gwisgo mewn gwarth a chywilydd!

14 Ond bydda i'n gobeithio bob amser,ac yn dal ati i dy foli di fwy a mwy.

15 Bydda i'n dweud am dy gyfiawnder.Bydda i'n sôn yn ddi-baid am y ffordd rwyt ti'n achub;Mae cymaint i'w ddweud!

16 Dw i'n dod i ddweud am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud– fy meistr, fy ARGLWYDD –a dathlu'r ffaith dy fod mor gyfiawn – ie, ti yn unig!

17 O Dduw, dw i wedi profi'r peth ers pan yn ifanc,ac wedi bod yn sôn am y pethau rhyfeddolrwyt ti'n eu gwneud hyd heddiw.

18 Dw i bellach yn hen a'm gwallt yn wyn,ond paid gadael fi nawr, O Dduw.Dw i eisiau dweud wrth y genhedlaeth sydd i ddodam dy gryfder a'r pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.

19 Mae dy gyfiawnder yn cyrraedd y nefoedd, O Dduw!Ti wedi gwneud pethau mor fawr –O Dduw, does neb tebyg i ti!

20 Er i ti adael i mi wynebu pob math o brofiadau chwerw,wnei di adael i mi fyw eto?Wnei di fy nghodi eto o ddyfnderoedd y ddaear?

21 Adfer fy enw da!Cysura fi unwaith eto.

22 Yna byddaf yn dy foli gyda'r nabl,a chanmol dy ffyddlondeb, O fy Nuw!Bydda i'n canu i ti gyda'r delyn,O Un Sanctaidd Israel.

23 Bydda i'n gweiddi'n llawen,ac yn canu i ti go iawn –ie, â'm holl nerth, am i ti ngollwng i'n rhydd.

24 Fydda i ddim yn stopio sôn am dy gyfiawnder.Bydd y rhai oedd am wneud niwed i mi yn cael eu siomi a'u cywilyddio!