1 Ar ôl i'r ARGLWYDD roi llwyddiant i Seion eto,roedden ni fel rhai yn breuddwydio –
2 roedden ni'n chwerthin yn uchel,ac yn canu'n llon.Roedd pobl y cenhedloedd yn dweud:“Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr iddyn nhw!”
3 Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr i ni.Dŷn ni mor hapus!
4 O ARGLWYDD, wnei di roi llwyddiant i ni eto,fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef?
5 Bydd y rhai sy'n wylo wrth hauyn canu'n llawen wrth fedi'r cynhaeaf.
6 Mae'r un sy'n cario ei sach o hadauyn crïo wrth fynd i hau.Ond bydd yr un sy'n cario'r ysgubauyn dod adre dan ganu'n llon!