1 O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion!Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i.
2 Mae cymaint ohonyn nhw'n dweud,“Fydd Duw ddim yn dod i'w achub e!” Saib
3 Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o'm cwmpas.Ti ydy'r Un dw i'n brolio amdano!Ti ydy'r Un sy'n rhoi hyder i mi.
4 Dim ond i mi weiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD,bydd e'n fy ateb i o'i fynydd cysegredig. Saib
5 Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro,am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i.
6 Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyrsy'n ymosod arna i o bob cyfeiriad.
7 Côd, ARGLWYDD!Achub fi, O fy Nuw.Rho glatsien iawn i'm gelynion i gyd.Torra ddannedd y rhai drwg.
8 “Yr ARGLWYDD sy'n achub!”Rwyt ti'n bendithio dy bobl! Saib