1 Mae pawb yn Jwda'n gwybod am Dduw;mae ganddo enw da yn Israel.
2 Mae'n byw ar fynydd Seion,yn Jerwsalem, dinas heddwch.
3 Dyna ble torrodd e'r saethau tanllyd,y darian, y cleddyf, a'r holl arfau rhyfel. Saib
4 Ti ydy'r Un Disglair, yr Un Harddsy'n dod i lawr o'r mynyddoeddar ôl trechu dy elynion.
5 Cafodd eu milwyr dewr eu hysbeilio!Maen nhw'n ‛cysgu‛ am y tro ola!Doedd y rhyfelwr cryfaf ddim yn gallu codi bys!
6 Dyma ti'n rhoi bloedd, O Dduw Jacob,ac roedd pob marchog a gyrrwr cerbyd yn farw.
7 O! Rwyt ti mor rhyfeddol!Pwy sy'n gallu sefyll yn dy erbynpan rwyt ti'n ddig?
8 Wrth i ti gyhoeddi dy ddedfryd o'r nefoedd,roedd y ddaear wedi ei pharlysu gan ofn,
9 wrth weld Duw yn codi i farnuac achub y rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir. Saib
10 Bydd rhai mwyaf ffyrnig y ddaear yn dy gydnabodpan fyddi'n dangos dy ddigofaint yn llawn.
11 Gwnewch addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u cadw!Boed i bawb sydd o'i gwmpas ddod â rhoddioni'r Duw sydd i'w ofni!
12 Mae'n torri crib y llywodraethwyr balch,ac yn dychryn brenhinoedd y ddaear.