1 O Dduw, ateb fi pan dw i'n galw arnat!Ti ydy'r un sy'n achub fy ngham!Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan.Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi.
2 “Chi bobl feidrol,am faint mae fy enw i gael ei sarhau?Am faint ydych chi'n mynd i roi'ch bryd ar bethau diwerth,a dilyn pethau twyllodrus?” Saib
3 Deallwch fod yr ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon iddo'i hun!Mae'r ARGLWYDD yn clywed pan dw i'n galw arno.
4 Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu!Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo.
5 Dewch â chyflwyno'r aberthau iawn iddo;trowch a trystio'r ARGLWYDD.
6 Mae llawer yn gofyn, “Pryd welwn ni ddyddiau da eto?”O ARGLWYDD, wnei di fod yn garedig aton ni?
7 Gwna fi'n hapus eto, fel yr adegpan mae'r cnydau ŷd a grawnwin yn llwyddo.
8 Bydda i'n gallu gorwedd i lawr a chysgu'n dawel,am dy fod ti, O ARGLWYDD, yn fy nghadw i'n saff.